Rhif y ddeiseb: P-06-1499

Teitl y ddeiseb:  Rhoi terfyn ar y defnydd o’r term ‘Darpariaeth Gyffredinol’ fel rheswm dros wrthod ADY.

Geiriad y ddeiseb:  Dros y misoedd diwethaf, bu llawer o drafod ynghylch y term Darpariaeth Gyffredinol. Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a Llywodraeth Cymru wedi rhoi canllawiau clir o ran ystyr y term hwn. Eto, er gwaethaf yr eglurhad hwn, mae Awdurdodau Lleol ac aelodau o Lywodraeth Cymru yn parhau i ganiatáu i’r term hwn gael ei ddefnyddio i wrthod statws ADY i ddysgwr a darparu darpariaeth ddysgu ychwanegol.  Gall fod un ateb yn unig a hynny yw i’r defnydd o’r term hwn gael ei wahardd.

Tra bo aelodau o Lywodraeth Cymru yn parhau i ddefnyddio’r term hwn wrth drafod ADY, gan gynnwys yn ystod cyfweliadau i’r cyfryngau, mae’n rhoi cyfle i Awdurdodau Lleol wneud yr un peth, a pharhau i wrthod ADY i ddysgwyr.

Mae gwaith parhaus drwy’r ymchwiliad i ddiwygiadau addysg a’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ond mae materion parhaus gyda theuluoedd sy’n codi sy’n dangos anghysondebau ymysg awdurdodau yng Nghymru a Llywodraeth Cymru.

 

 


1.        Y cefndir

Mae Llywodraeth Cymru a'r sector addysg ar hyn o bryd yn gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. O dan y Ddeddf, mae’r system Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) yn cael ei disodli gan system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) newydd.

Mae’r system ADY newydd yn cael ei chyflwyno fesul cam dros bedair blynedd (mis Medi 2021 i fis Awst 2025). Mae'r holl ddysgwyr sydd newydd gael eu nodi ag ADY yn dod o dan y system newydd, gyda’r rhai sydd eisoes yn cael eu cefnogi ag AAA yn symud i’r system newydd mewn gwahanol flynyddoedd, yn dibynnu ar eu grŵp blwyddyn a lefel yr ymyriadau (a oes ganddynt ddatganiad AAA ai peidio). O’r herwydd, mae’r system AAA bresennol/flaenorol a’r system ADY newydd yn gweithredu ochr yn ochr, tan fis Awst 2025.

Cyhoeddodd Ymchwil y Senedd erthygl ym mis Ebrill 2023 ynghylch yr amserlen ar gyfer gweithredu.

1.1.            Diffinio Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Mae dysgwyr y bernir bod ganddynt ADY yn gymwys ar gyfer Cynllun Datblygu Unigol statudol. Mae Cynllun Datblygu Unigol yn disgrifio ADY unigolyn a’r Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol sydd ei hangen yn sgil anhawster dysgu neu anabledd yr unigolyn. Mae diffiniad Deddf 2018 o ADY yr un peth â’r diffiniad ar gyfer AAA, lle mae dysgwyr:

§    yn cael anhawster sylweddol fwy i ddysgu na’r mwyafrif o’r rhai eraill sydd o’r un oedran; neu

§    ag anabledd (at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010) sy’n ei atal neu’n ei lesteirio rhag defnyddio cyfleusterau addysg neu hyfforddiant o fath a ddarperir yn gyffredinol ar gyfer eraill sydd o’r un oedran; a

§    mewn sefyllfa lle mae’r anhawster dysgu neu'r anabledd yn gofyn am Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol.

[ein pwyslais ni yw’r print trwm]

Mae pwynt olaf y diffiniad yn arwyddocaol oherwydd, os gellir ymdrin ag anhawster dysgu drwy ddarpariaeth gyffredinol, neu ddarpariaeth sydd ar gael fel arfer, ac nad oes angen Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol, yna nid ystyrir bod gan y dysgwr ADY.

1.2.          Newid tuag at ddarpariaeth gyffredinol

Mae'n ymddangos bod newid tuag at ‘ddarpariaeth gyffredinol’ wedi digwydd o ran diwallu anghenion plant, yn lle’r sefyllfa flaenorol o efallai gydnabod yr anghenion hynny fel AAA a threfnu darpariaeth addysg arbennig ar eu cyfer. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod y diffiniad o ADY yn ei hanfod yr un fath â’r diffiniad o AAA. Mae nifer y dysgwyr y nodwyd bod ganddynt AAA neu ADY wedi gostwng bron i hanner (44%) ers dechrau rhoi’r system newydd ar waith – o 92,688 yn 2020/21 (20% o’r holl ddisgyblion) i 52,152 (11% o’r holl ddisgyblion) yn 2023/24. Y rheswm am hyn yw gostyngiad yn nifer y disgyblion sydd â lefel gymharol isel o AAA/ADY, sy'n dangos nad yw'n wir i ddweud nad yw dysgwyr ag anghenion difrifol neu gymhleth bellach yn cael eu cydnabod fel rhai sydd ag ADY/AAA.

Fodd bynnag, ar gyfer llawer o ddysgwyr a fyddai wedi cael eu hystyried yn ddysgwyr ag AAA/ADY, ni chafodd y newid oddi wrth Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol tuag at ddarpariaeth gyffredinol ei ragweld yn gyhoeddus gan Lywodraeth Cymru. Yn ystod y broses o basio'r Bil ADY yn 2017, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'r rhai sy'n cael eu cwmpasu o dan y system newydd yn fras yr un rhai ag o'r blaen ac, wrth wneud rheoliadau dilynol yn 2021, rhagwelodd y byddai “tua 110,000 CDU oedran ysgol”, sef yr un nifer o ddisgyblion ag AAA bryd hynny.

Yn ei datganiad ar ystadegau’r cyfrifiad ysgolion ac mewn llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar y pryd at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig sawl esboniad am y gostyngiad.

§    Mae gormod o achosion o AAA wedi cael eu nodi yn hanesyddol, yn rhannol oherwydd cynnwys categori anhawster dysgu nad yw, wrth edrych yn ôl, yn gyfystyr ag AAA/ADY mewn gwirionedd.

§    Mae’r cydlynwyr ADY statudol newydd wedi adolygu cofrestrau AAA eu hysgolion ac wedi dileu rhai dysgwyr y mae angen y lefel isaf o gymorth arnynt.

§    Lluniwyd y ddeddfwriaeth ADY ddegawd yn ôl ac mae dull mwy cynhwysol y Cwricwlwm newydd i Gymru yn golygu bod modd defnyddio darpariaeth gyffredinol, gydag addysgu gwahaniaethol ac arfer addysg gynhwysol, i ddiwallu anghenion rhai dysgwyr yr oedd angen Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol arnynt yn flaenorol. Mae dileu rhai disgyblion o'r gofrestr AAA/ADY yn dod â chyfran yr holl ddisgyblion y nodwyd bod ganddynt AAA/ADY i lawr o 20% yn 2020/21 i 13% yn 2022/23 ac 11% yn 2023/24.

Cyhoeddodd Ymchwil y Senedd erthygl ym mis Medi 2022, Nodi anghenion dysgu ychwanegol: A yw’r bar wedi’i godi neu a oedd y bar yn rhy isel cyn hynny?

1.3.          Y Cod ADY

Fel sy’n ofynnol o dan Ddeddf 2018, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol, a gymeradwywyd gan y Senedd ym mis Mawrth 2021. Mae’r Cod ADY yn amlinellu gofynion a chanllawiau ar gyfer ysgolion, sefydliadau addysg bellach, awdurdodau lleol, cyrff GIG ac eraill ar y system ADY. Gwnaeth Llywodraeth Cymru ymgynghori ar fersiwn ddrafft o'r Cod ADYyn ystod gaeaf 2018/19. Ymhlith y materion a godwyd roedd diffinio a nodi ADY, amserlenni ar gyfer cyflawni dyletswyddau, rolau gweithwyr proffesiynol amrywiol a threfniadau ar gyfer datrys anghytundeb, gwasanaethau eirioli a threfniadau apêl. Cyflwynodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd ymateb ar ôl gweithio gyda rhanddeiliaid.

1.4.          Adroddiad Estyn ar weithredu diwygio ADY

Ym mis Medi 2024, cyhoeddodd yr arolygiaeth addysg, Estyn, yr adroddiad cyntaf yn sgil cylch gorchwyl Llywodraeth Cymru. Ymhlith canfyddiadau Estyn, roedd diffyg cysondeb yn nealltwriaeth a chymhwysiad pobl o dermau fel 'cyffredinol', 'wedi’i thargedu' ac 'arbenigol', a sut mae'r rhain yn berthnasol i Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol. Nododd Estyn hefyd nad yw’r termau hyn o reidrwydd yn ymddangos yn y Cod ADY.

Argymhellodd Estyn fod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan bob lleoliad ddealltwriaeth glir o’r diffiniadau cyfreithiol yn Neddf 2018 a’r Cod ADY, a bod y Llywodraeth yn darparu enghreifftiau ymarferol i gynorthwyo dealltwriaeth. 

Yn yr ail adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2024, dywedodd Estyn ei bod wedi cydnabod yn ei hymweliadau â lleoliadau, ysgolion ac awdurdodau lleol fod y ddealltwriaeth a rennir a'r cymhwysiad cyffredin o dermau fel darpariaeth ac arferion cyffredinol yn parhau i fod yn anghyson. Argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda phob awdurdod lleol i sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth gyffredin a diogel o'r diffiniad o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a bod awdurdodau lleol a'u hysgolion yn cymhwyso hyn yn gyson.

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Ar 8 Mai 2024, dywedodd Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y byddai Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad o ba mor gyson y mae'r ddeddfwriaeth yn cael ei gweithredu:

and will look at the issues that have been raised with me about the inconsistencies and the fact that the legislation is intellectually challenging.

Mewn Datganiad Ysgrifenedig gan y Cabinet ar 7 Hydref 2025, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:

mewn ymateb i dystiolaeth a phryderon bod rhai rhannau yn gymhleth ac yn aneglur, rydym bellach yn edrych yn fanwl ar y fframwaith deddfwriaethol ac mewn trafodaeth â phartneriaid cyflawni. Mae'r adolygiad yn ystyried eglurder a hygyrchedd y fframwaith deddfwriaethol ac yn casglu tystiolaeth o'r heriau ymarferol wrth weithredu'r system ADY.  

Mewn llythyr at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 4 Chwefror 2025, rhoddodd yr Ysgrifennydd Cabinet fwy o fanylion am gwmpas ac amserlen yr adolygiad. Dywedodd ei bod yn disgwyl diweddaru’r Senedd ar gynnydd a chanfyddiadau’r adolygiad erbyn dechrau mis Gorffennaf 2025.

3.      Camau gweithredu Senedd Cymru

3.1.          Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd yn craffu ar y broses o weithredu’r diwygiadau ADY (ynghyd â diwygiadau mawr eraill i’r cwricwlwm) yn ystod y Senedd hon. Mae'n gwneud hyn drwy gyfres o 'gyfnodau monitro' – cynhaliwyd tri o'r rhain hyd yma.  

Cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad interim ym mis Gorffennaf 2024. Clywodd y Pwyllgor gan rai ysgolion, er eu bod yn cydnabod bod gan rai disgyblion anhawster neu anabledd dysgu, nad ydynt yn credu bod angen darpariaeth ddysgu ychwanegol arnynt oherwydd bod darpariaeth safonol yr ysgol (a elwir yn 'ddarpariaeth gyffredinol' neu fel arall) yn diwallu eu hanghenion addysgol. O ganlyniad i hyn, nid yw’r ysgolion hyn yn ystyried bod gan ddisgyblion o’r fath ADY at ddibenion y Ddeddf ADY.

Eglurodd yr ysgolion hefyd fod y Cwricwlwm i Gymru yn caniatáu lefelau uwch o wahaniaethu gan athrawon. Mae’r cwricwlwm yn annog ffocws ar ‘gyfnod, nid oedran’, sy’n golygu y gallai plant na allent gael mynediad at y cwricwlwm yn flaenorol – ac felly angen darpariaeth ychwanegol – gael eu haddysgu’n fwy cynhwysol bellach ar lefel sy’n addas i’w hanghenion.

Dywedodd Llywydd Tribiwnlys Addysg Cymru wrth y Pwyllgor ym mis Mawrth 2024:

… there’s no such thing as universal provision in the law. It’s not in the ALN Act, it’s not in the regulations, it’s not mentioned in the code. But there’s a lot of conversation about children not having ALN because there’s provision that’s provided for them under universal provision. Welsh Government hasn't set out what a universal provision is. It's not there in the law. The legal tests are a child compared with the ordinary developing child, or provision that's provided in mainstream schools across Wales, so it's not specific to a particular local authority area, or a particular school even, and that's causing confusion.

Un o argymhellion y Pwyllgor yn yr adroddiad interim oedd:

Fel rhan o’i hadolygiad o’r Ddeddf a’r Cod ADY, dylai Llywodraeth Cymru adolygu eglurder a hygyrchedd y ddeddfwriaeth a’r canllawiau statudol. Dylai ffocws y gwaith hwnnw fod ar yr hyn a olygir, neu o leiaf a ddëellir yn gyffredin, fel ‘darpariaeth gyffredinol’.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad. Dywedodd:

Disgwylir darparu'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ar gynnydd a chanfyddiadau'r adolygiad erbyn Haf 2025. Yn ogystal, mae gwaith ar y gweill i ddeall yn well yr hyn sydd 'ar gael yn gyffredinol' i bob dysgwr o’r un oedran yng Nghymru. Er nad yw 'darpariaeth gyffredinol' yn derm y cyfeirir ato yn y Ddeddf na'r Cod ADY, defnyddir y term yn eang yn y sector i ddisgrifio'r arfer o ddydd i ddydd sy'n digwydd ym mhob ystafell ddosbarth i ymateb i anghenion addysgol, sicrhau cynnydd unigol a gofalu bod pob plentyn a pherson ifanc yn medru ffynnu yn eu lleoliadau.

3.2.        Y Pwyllgor Deisebau

Yn ddiweddar, mae'r Pwyllgor Deisebau wedi ystyried pum deiseb am ADY:

§  P-06-1392 Diwygio Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021

§  P-06-1341 Canllawiau hygyrch ar gyfer rhieni ac ysgolion er mwyn helpu’r broses o ddatblygu cynlluniau i gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol

§  P-06-1342 Ariannu mwy o leoedd mewn ysgolion arbenigol a staff i blant ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru

§  P-06-1347 Adolygu polisïau anghenion dysgu ychwanegol a’i gwneud yn orfodol i hyfforddi pob athro a chynorthwyydd addysgu mewn technegau rheoleiddio YN LLAWN

§  P-06-1406 Cosbau ariannol i Awdurdodau Addysg Lleol nad ydynt yn cydymffurfio â'r amserlenni ar gyfer ADY

Ystyriodd y Pwyllgor y deisebau gyda'i gilydd a nododd yr Aelodau fod yr Ysgrifennydd Cabinet eisoes yn gweithio gydag ymgyrchwyr i fynd i'r afael â phryderon. Nodwyd hefyd waith parhaus yn y maes hwn gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a fydd yn adrodd eto erbyn diwedd tymor y Senedd.  Caewyd y deisebau ac roedd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Mai 2024 ar y ddeiseb mewn perthynas â diwygio Cod anghenion dysgu ychwanegol Cymru 2021. Cyhoeddodd Ymchwil Senedd erthygl cyn y ddadl honno.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.